Mae firws sy’n achosi anffurfio ac erthylu yng nghroth defaid  wedi ymddangos ymhlith gwartheg yng Nghymru.

Dywedodd y milfeddyg Iwan Parry o Ddolgellau fod profion gwaed wedi darganfod olion o’r firws mewn lloi yn ardaloedd Dyffryn Conwy, Gwynedd, Powys a De Meirionnydd.

Dywedodd wrth golwg360: “Rydan ni wedi bod yn chwilio am – ac wedi darganfod achosion o Schmallenberg.

“Mae ymateb y corff i’r profion yn awgrymu hynny.

“Yr hyn dan ni ddim yn gwybod ydy ers pryd mae wedi bod yno.”

“Mae lefel y clwy wedi lledu a’r cwbwl fedran ni wneud nawr yw dal ein gwynt.”

Mae’n debyg bod y firws yn cael ei gludo gan bryfed, a chafodd yr achosion cyntaf eu darganfod yn Yr Almaen yn 2011.

Yn sgil y pryderon diweddaraf am y firws, mae undeb yr NFU wedi galw am frechu anifeiliaid yn erbyn sgil effeithiau Schmallenberg.

Yn ôl arbenigwyr, gallai effaith y firws fod yn llawer gwaeth na’r Tafod Glas, firws arall sydd wedi effeithio ar anifeiliaid yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.

Er bod y firws yn gallu lladd ŵyn ac anifeiliaid eraill, does dim prawf fod modd trosglwyddo’r firws i bobol.

Dywed arbenigwyr mai newidiadau ecolegol a chynnydd yng nghyfradd geni defaid sydd ar fai am ledu’r firws.

Dywedodd Ed Bailey Llywydd NFU Cymru sy’n ffermio defaid yn Sir Feirionnydd: “Gyda’r tymor wyna wedi dechrau i rai ffermwyr, ac ar y gorwel i eraill, mae firws Schmallenberg (SBV) yn bryder mawr i’r holl ffermwyr da byw yng Nghymru.

“Mae ein neges yn parhau yr un fath. Rydym yn annog pob ffermwr i fod yn wyliadwrus ar gyfer arwyddion o’r afiechyd ac i adrodd am unrhyw symtomau anarferol i’r milfeddyg neu swyddfa iechyd anifeiliaid lleol.

“I helpu’r diwydiant, mae angen diagnostig effeithlon ac effeithiol ar y tir fel y gall ffermwyr weithio gyda’u milfeddygon i leihau a rheoli bygythiad y firws i’w busnesau.

Bydd hyn yn helpu yn y tymor byr ond yr hyn sy’n bwysicach yw fod brechiad ar gael i roi cyfle i’r ffermwyr amddiffyn eu gwartheg a’u defaid yn erbyn y firws yma.

“Rydym yn deall bod brechiad wedi cael ei ddatblygu a’n gobaith ni nawr yw y gellir ei drwyddedu a’i gymeradwyo cyn gynted â phosib.”