Er bod y Llywodraeth yn Llundain wedi dweud na fydd gan yr Eglwys yng Nghymru nac Eglwys Loegr yr hawl i gynnal priodasau hoyw, mae’r Eglwys yng Nghymru wedi dweud bod modd newid y gyfraith.

Mae’r Bil priodas Gyfartal yn cael ei gyhoeddi heddiw ac ac mae disgwyl dadlau tanllyd ar y pwnc yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ym mis Rhagfyr roedd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Prydain, Maria Miller, wedi dweud y byddai’n anghyfreithlon i’r Eglwys yng Nghymru briodi cyplau hoyw, ond bod modd i Gorff Llywodraethol yr eglwys wneud cais i newid hynny.

Rhyddid i benderfynu

Mewn datganiad heddiw mae’r Eglwys wedi cadarnhau fod rhyddid ganddi i benderfynu dros ei hun.

“Pe byddai Corff Llywodraethu’r Eglwys yn penderfynu yn y dyfodol fod yr Eglwys yn dymuno cynnal priodasau o’r un rhyw, mae darpariaeth yn y Bil i’r gyfraith gael ei newid heb yr angen am ddeddfwriaeth sylfaenol bellach gan y Senedd,” medd yr Eglwys yng Nghymru.

“Yn wir, byddai penderfyniad gan Gorff Llywodraethu yr Eglwys yn cychwyn gorchymyn gan yr Arglwydd Ganghellor ar gyfer gwneud y newidiadau cyfreithiol angenrheidiol.”

Mae Archesgob Cymru Barry Morgan eisoes wedi dweud fod y Bil yn rhoi’r eglwys “mewn sefyllfa anodd iawn, iawn” a’i fod yn gwrthwynebu rhoi gwaharddiad ar briodi cyplau o’r un rhyw.