Mae Cyngor Ynys Môn wedi dweud eu bod yn ffyddiog bod modd dod i gytundeb er mwyn achub hyd at 350 o swyddi mewn lladd-dy yn Y Gaerwen.
Mae yna ansicrwydd ynghylch dyfodol Welsh Country Foods ar ôl i gwmni Asda roi’r gorau i gytundeb gyda pherchnogion y safle, Vion.
Mae’r Cyngor wedi bod yn cynnal trafodaethau heddiw gyda pherchnogion y lladd-dy, undebau amaeth, a Gyrfa Cymru.
Dywedodd arweinydd y Cyngor, Bryan Owen wrth y Post Prynhawn bod y cyfarfod wedi bod yn un “adeiladol dros ben” ac y bydd ymgynghoriad yn dilyn.
Daeth i’r amlwg hefyd bod gan gwmni ddiddordeb mewn prynu’r safle, ond mae’r trafodaethau yn eu cyfnod cynnar ar hyn o bryd, meddai.
Does dim sicrwydd eto a fydd Asda yn gwyrdroi eu penderfyniad, ond mae disgwyl cyhoeddiad o fewn pythefnos.
Welsh Country Foods yw’r prosesydd cig oen mwyaf yng ngogledd Cymru, ac mae 50% o waith y safle’n ddibynnol ar y cytundeb gydag Asda.