Y llifogydd yn Llanelwy fis yn ôl (llun PA)
Gyda rhagolygon am ragor o law trwm mewn rhannau helaeth o Gymru, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn i bobl fod ar eu gwyliadwriaeth am lifogydd ar hyd a lled y wlad.

Mae disgwyl i law trwm daro Cymru tuag amser cinio heddiw (dydd Sul), gyda mwy na thair modfedd (80mm) yn bosibl ar dir uchel yn Eryri.

Mae disgwyl hyd at ddwy fodfedd (50mm) ar fynyddoedd y Cambria a Bannau Brycheiniog hefyd.

Daw eu rhybydd 24 awr yn unig ar ôl y band o law trwm a groesodd Cymru echnos a fore ddoe.

Mae hyn, ynghyd â’r ysbeidiau hir o law trwm dros y Nadolig, yn golygu bod y tir yn llawn dŵr ac y gallai afonydd godi’n gyflym ar ôl unrhyw law ychwanegol.

Cyhoeddi rhybuddion

Erbyn y bore yma, mae tri Rhybudd Llifogydd llawn – yng ngwaelod dyffryn Dyfrdwy, Abergwili a Dinbych y Pysgod – a 29 Rhybudd Gwyliadwriaeth Llifogydd wedi cael eu cyhoeddi ledled Cymru ac mae’n debygol y bydd rhagor o rybuddion yn cael eu cyhoeddi os bydd y glaw cynddrwg â’r disgwyl.

“Rydym yn gofyn i bobl gymryd gofal arbennig wrth i’r risg o lifogydd barhau,” meddai Graham Hillier ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.

“Rydym yn cynghori pobl i gadw llygad ar ragolygon tywydd, adroddiadau newyddion lleol a’n gwefan, sy’n cael ei diweddaru bob 15 munud, am y rhybuddion diweddaraf yn eu hardal.”

Mae’r Asiantaeth yn rhybuddio pobl i beidio â cherdded na gyrru trwy lifogydd. Mae ychydig fodfeddi’n ddigon i daflu rhywun oddi ar ei draed, a gall dwy droedfedd fod yn ddigon i beri i gar nofio.