F
Alun Davies - safon yn rhan o ddiwylliant ffermio yng Nghymru
e fydd siopwyr yn Waitrose yn sylwi fod digon o gig eidion du Cymreig ar gael y Dolig hwn.

Mae hynny oherwydd fod grwp o ffermwyr o’r Canolbarth ymhlith cyflenwyr swyddogol y siopau bellach.

Mae grwp Marchnata Eidion Du Cymreig Dyffrynnoedd Gwy a Thywi, sy’n cynrychioli chwech o ffermydd, wedi gweld y galw am gig eidion yn dwblu eleni.

Maen nhw bellach yn gwerthu’n gyson i Parc Dovecote, sef cyflenwyr swyddogol siopau Waitrose.

“Mae bwyd o safon yn rhan ganolog o ddiwylliant Cymru,” meddai Alun Davies, Dirprwy Weindog Amaeth, llywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch iawn o weld fod y grwp yma wedi gweld cynnydd yn yr archebion, a bod yna alw mawr am y cynnyrch ffantastig hwn.”

Cymorth gan y llywodraeth

Mae aelodau’r grwp yn cydnabod cymorth ariannol gwasanaeth Agrisgôp – rhaglen sy’n hybu ffermwyr i gydweithio er mwyn llwyddo ar yr ochr fusnes.