Mae safonau llythrennedd wedi “codi’n sylweddol” mewn sawl ysgol ledled y brifddinas o ganlyniad i gynllun darllen gan Gyngor Caerdydd.

Mae menter Grym Darllen yn gynllun sy’n dod â’r byd addysg a’r byd busnes at ei gilydd, a’r pwyslais ar godi oedran darllen disgyblion.

Mae’n rhan o strategaeth llythrennedd y Cyngor a lansiwyd yn 2008 i helpu i wella safonau darllen ac ysgrifennu mewn ysgolion ledled y ddinas.

Codi oedran darllen

Un o’r ysgolion a gymerodd ran yw Ysgol Uwchradd Glyn Derw, a gefnogwyd gan Pricewaterhouse Coopers, lle gwelwyd gwelliannau sylweddol.

Mewn rhai achosion, mae disgyblion wedi cynyddu eu hoedran darllen fwy na thair blynedd a hanner mewn blwyddyn.

Er enghraifft, mae disgybl 11 oed y nodwyd yn flaenorol bod ganddo oedran darllen o wyth oed wedi llwyddo, mewn dim ond blwyddyn, i gyrraedd ei oedran darllen priodol o ganlyniad i’r cynllun.

“Mae’r canlyniadau hyn yn arbennig o galonogol,” meddai’r Cynghorydd Julia Magill, yr aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes.

“Mae llythrennedd yn chwarae rôl hanfodol ym mywydau pobl ac rydym ni fel Cyngor yn cydnabod pa mor bwysig yw codi safonau fel y gall pawb gyflawni eu potensial.

“Mae llythrennedd gwael yn cael effaith ddramatig ar fywyd unigolion a’r gymdeithas ehangach,” meddai wedyn. “Mae ein hysgolion yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â llythrennedd gwael, ac maen nhw wedi croesawu’r ymgyrch hon.

“Rydym am helpu rhieni a gofalwyr i ddeall pa mor bwysig yw sgiliau darllen ac ysgrifennu da i helpu plant i lwyddo yn y dyfodol, ac mae’r gwirfoddolwyr busnes yn cynnig cymorth hanfodol wrth gyfleu’r neges honno.”

Yr ystadegau

Mae mwy na 160 o wirfoddolwyr o fusnesau a sefydliadau lleol wedi rhoi o’u hamser i roi cymorth i 14 o ysgolion yn y ddinas, gan dreulio awr yn darllen gyda disgyblion mewn ysgol bob wythnos.