Lesley Griffiths
Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried a oes angen newid y polisi tros lawdriniaethau i osgoi gordewdra.

Mae’r corff arolygu NICE wedi gwneud argymhellion newydd sy’n dweud y dylai llawdriniaeth – fel gosod band gastrig neu dorri rhan o’r stumog – fod yn rhan o driniaeth ehangach.

Fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, fod arolwg yn cael ei gynnal gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, gyda’r nod o greu argymhellion newydd.

Yn ôl ffigurau’r Llywodraeth, mae 57% o bobol Cymru’n rhy dew a 22% yn dod o fewn y categori ‘gordew’.

Er hynny, mae’r cynnydd yn y ffigurau wedi arafu i ddim ond 1% tros y pum mlynedd diwetha’.