Mae Cymdeithas Dai wedi rhybuddio y bydd toriadau yn y sector gyhoeddus yn golygu y bydd  nifer y bobl ddigartref yn cynyddu – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Ceredigion, Steve Jones yn credu y bydd toriadau i fudd-dal tai, y dreth ystafelloedd gwely a thoriadau yn y sector cyhoeddus yn ei gwneud hi’n anochel y bydd llai o wariant ar dai.

“Mae angen enfawr am ragor o dai cymdeithasol yng Ngheredigion i ddiwallu anghenion pobl leol, gyda llawer ohonynt ar incwm isel iawn,” meddai Steve Jones.

“Mae’r rheini yn cynnwys pobl sengl a theuluoedd sydd mewn gwaith – a nhw fydd yn cael eu taro waethaf gan newidiadau Llywodraeth y DU i Fudd-dal Tai ar gyfer pobl sengl dan 35 oed, a’r Dreth Ystafelloedd Gwely fydd yn cael ei chyflwyno ym mis Ebrill 2013.”

Dywedodd Steve Jones: “Bydd y Dreth Ystafelloedd Gwely yn effeithio ar denantiaid o oedran gweithio mewn cartrefi lle na chaiff pob ystafell wely ei defnyddio.

“Mae llawer o sôn am bobl yn eu 40au a’u 50au sy’n ‘meddiannu’ tai â thair ystafell wely, ac y dylent symud i lety llai o faint ag un neu ddwy ystafell wely – ond mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion ble mae’r eiddo hwnnw? Nid yw’n bodoli.

“Ac mae toriad Llywodraeth y DU o 40% i wariant cyfalaf yn golygu bod llai o lawer o Grant Tai Cymdeithasol ar gael i adeiladu cartrefi newydd, llai o faint.”

‘Argyfwng’

Bob dwy funud a hanner, mae rhywun yn rhywle mewn perygl o golli ei gartref ac mae’r galw am dai dros dro eisoes ar ei lefel uchaf erioed.

Ac er y bod digartrefedd yn cael ei gysylltu’n aml â dinasoedd, mae’r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig lawn cynddrwg os nad yn waeth, oherwydd y cyflenwad cyfyngedig o lety sydd ar gael, meddai.

“Mae’r argyfwng hwn o ran tai yn mynd o ddrwg i waeth, ac ar hyn o bryd mae gennym staff arbenigol yn cynghori pob un o’n tenantiaid sydd ar fudd-daliadau ac yr effeithir arnynt, er mwyn i ni allu eu paratoi gymaint ag sy’n bosibl ar gyfer y toriadau mawr hyn i’w hincwm sydd eisoes yn isel.”