Mae ffermwyr Cymru wedi cael eu rhybuddio y gallai nifer cynyddol o ŵyn a lloi gael eu geni gyda namau y gwanwyn nesaf o ganlyniad i firws Schmallenberg (SBV).

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Christianne Glossop, wedi annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus am arwyddion o SBV a gafodd ei ganfod gyntaf yng Nghymru ym mis Medi 2012.

Dywedodd Dr Christianne Glossop:  “Erbyn hyn mae gennym ni dystiolaeth o haint SBV yn y rhan fwyaf, os nad pob sir yng Nghymru, ac yn ddiweddar rydym ni hefyd wedi darganfod ein hachos clinigol cyntaf o SBV mewn oen wedi ei eni gydag abnormalrwydd.

“Mae’r datblygiadau hyn yn golygu ei bod hi’n debygol y bydd ŵyn a lloi yn cael eu geni gyda namau  yng Nghymru yng ngwanwyn 2013 o ganlyniad i ddefaid a gwartheg yn cael eu heintio â SBV yn ystod y tymor paru eleni.”

Mae firws Schmallenberg (SBV) yn effeithio defaid, gwartheg a geifr. Gall achosi clefyd byr, ysgafn i gymedrol, mewn gwartheg ac erthyliad hwyr neu namau mewn lloi, wyn a mynnod geifr. Mae’r firws yn cael ei gario gan wybed felly gall ledaenu dros ardaloedd eang yn gymharol gyflym.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ffermwyr a milfeddygon ar fesurau posibl yn erbyn Schmallenberg ar ei wefan.

“Wrth i ni nesáu at y tymor wyna , rwy’n annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd ac i geisio cymorth milfeddygol os oes ganddynt unrhyw bryderon,” meddai Dr Christianne Glossop.