Mae Aelodau’r Cynulliad wedi cael eu galw yn ôl o wyliau’r Nadolig er mwyn pleidleisio ar gynnig i newid budd-daliadautreth y cyngor.

Mae disgwyl y bydd yr aelodau yn pleidleisio o blaid y cynnig a fydd yn golygu fod 230,000 o bobol yng Nghymru  sydd ar hyn o bryd yn derbyn budd-dal llawn yn gorfod talu o leiaf ychydig o dreth cyngor.

Brynhawn yma bydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn cyflwyno Cynnig ar y dreth cyngor am yr ail waith mewn pythefnos.

Methodd yr aelodau â dod i gytundeb ar Ragfyr 5 am nad oedd aelodau’n teimlo eu bod nhw wedi cael digon o amser i graffu’r cynlluniau.

Ar Ragfyr 7 cyhoeddodd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler, fod y Cynulliad yn mynd i ail-gynnull ar gais y Prif Weinidog Carwyn Jones er mwyn cynnal dadl ar y mater cyn y Nadolig.

Mae’r dreth cyngor yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli ond Llywodraeth Prydain sy’n pennu pwy sydd â’r hawl i dderbyn budd-dal, a faint o fudd-dal.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd y cymhorthdal maen nhw’n ei dalu tuag at y budd-daliadau treth cyngor yn cael ei dorri 10% 0 2013-14 ymlaen, sydd wedi arwain at y cynnig sydd gerbron y Cynulliad heddiw.