Huw Vaughan Thomas
Mae dau adroddiad newydd wedi beirniadu Cyngor Sir Benfro am safon addysg o fewn y sir a’i systemau diogelu plant.

Mae’r corff arolygu ysgolion Estyn wedi dweud bod gwasanaethau addysg plant a phobol ifanc yr awdurdod lleol yn “anfoddhaol” tra bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd.

Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, mae angen cefnogaeth allanol ar y Cyngor er mwyn gwella diogelwch plant yn y sir.

Daw’r adroddiadau heddiw yn dilyn cyfres o feirniadaethau o’r modd mae Cyngor Sir Benfro yn mynd i’r afael â diogelwch plant o fewn ysgolion y sir . Mae Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams, wedi cydnabod fod dal lle i’r Cyngor wella ond eu bod nhw’n cymryd camau i wella’r sefyllfa.

Y cefndir

Ym mis Awst 2011 cafodd adroddiad damniol ei gyhoeddi am fethiant Cyngor Sir Benfro i ddiogelu plant ac ym mis Mehefin eleni dywedodd Llywodraeth Cymru fod cynnydd Cyngor Sir Benfro yn y maes “yn parhau i fod yn boenus o araf.”

Roedd y Llywodraeth wedi tynnu at y sylw at y defnydd o ystafelloedd encilio yn ysgolion cynradd Sir Benfro er mwyn cloi plant afreolus i mewn.

Ym mis Gorffennaf dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews nad oedd ganddo ffydd yn rhai o swyddogion y cyngor ac y byddai Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro yn adrodd iddo yntau ac i’w swyddogion, yn hytrach nag i’r Cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:  “Rydym yn ymwybodol o’r pryderon difrifol sydd wedi cael eu mynegi gan yr Archwilydd Cyffredinol ac Estyn. Rydym yn gobeithio bod arweinyddiaeth y Cyngor yn Sir Benfro yn cymryd hyn o ddifrif. Fe fydd gweinidogion yn ymateb i’r adroddiadau mor fuan â phosib.”

‘Angen i’r Gweinidog weithredu’

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr ac Aelod Cynulliad De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin, Angela Burns, wedi dweud fod yr adroddiadau yn “rhybudd i bawb, yn arbennig y Gweinidog Addysg.”

“Mae methiannau gofidus iawn yn dal yn gyffredin ac nid yw’r newidiadau yn cael eu gwneud yn ddigon cyflym,” meddai.

“Mae angen i’r Gweinidog edrych ar y sefyllfa yn ofalus iawn a darparu mwy o arweinyddiaeth.

“Rwy’n ei annog i wneud datganiad ar yr adroddiadau ac i ymrwymo i welliannau pellach,” meddai Angela Burns.

‘Dangos arweiniad’

Mae llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas AC wedi galw ar y Gweinidog Addysg i gymryd rheolaeth dros addysg yn y sir.

“Allwn ni ddim caniatáu i’r methiannau a amlygir gan yr adroddiad barhau. Mae rhieni a phlant yn y sir wedi cael tro gwael gan fethiannau yn y system addysg. Mae’r cyfrifoldeb nawr ar y Gweinidog Addysg i ddangos arweiniad wrth unioni’r sefyllfa cyn gynted ag y bo modd; mae’n hanfodol adfer hyder yn ysgolion y sir.

“Dengys adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, tra bod camau wedi eu cymryd i amlygu’r angen i ddiogelu plant bregus, mai araf iawn fu unrhyw gynnydd i ymdrin ag achosion y methiannau.

“All hyn ddim parhau. Mae Plaid Cymru yn galw ar y gweinidog i ystyried cymryd rhan uniongyrchol er lles hyder y cyhoedd.”