Criw Carolau Gobaith 2012
Bydd CD Nadoligaidd y gyfres Carolau Gobaith sydd newydd gael ei darlledu ar S4C ar werth o fory ymlaen i godi arian at dri achos da.

Mae wyth cân Nadoligaidd ar y CD a gallwch ei phrynu o’ch siop Gymraeg lleol  neu lawr lwytho’r caneuon oddi ar safle iTunes. Mae’r elw er budd tair elusen – NSPCC, Cymorth Canser Macmillan ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Dros yr wythnosau diwethaf mae gwylwyr S4C wedi dilyn y sêr – Malcolm Allen, Catrin Dafydd, Mari Lovgreen, Richard Elis, Myfanwy Alexander a Rhodri Gomer Davies – wrth iddyn nhw gael eu tynnu’n llwyr o’u cynefin, gyda chymorth Tri Tenor Cymru, a chanu mewn cyngerdd mawr Nadoligaidd.

Daeth Carolau Gobaith i ben ar y sgrin neithiwr gyda darllediad o’r gyngerdd.

Roedd hi hefyd yn gystadleuaeth rhwng y tri thîm – dau seren i bob tenor – i berfformio’r fersiwn orau o’r garol Iesu Faban Mair. Yn dyfarnu roedd panel o feirniaid profiadol – Caryl Parry Jones, Elin Fflur a Cefin Roberts – ac yn fuddugol roedd Aled Hall a’i dîm Mari Lovgreen a Richard Elis. Y nhw, felly, sydd wedi hawlio eu lle ar drac rhif wyth y CD.

Syniad y tenor, Rhys Meirion, oedd y gyfres yn wreiddiol, ac yn gynhyrchiad gan gwmni Teledu Apollo.

“Roeddem mor ffodus i gael gwesteion gwych ac fe lwyddom ni i gael cymeriadau a oedd yn fodlon mynd i’r pen dros eu timoedd, “ meddai Rhys.

“Diolch o galon i bob un ohonynt am daflu eu hunain at yr her a’i wneud yn brofiad bythgofiadwy i ni gyd, gan gynnwys, dwi’n siŵr, y gwylwyr.

“Gobeithio y byddwch yn cael mwynhad o wrando ar y CD. Mwynhewch, a diolch am eich cefnogaeth i’r tair elusen fydd yn elwa. O, a llongyfarchiadau i Aled Hall fel capten y tîm buddugol.”

Os wnaethoch chi fethu gwylio’r gyfres, mae Carolau Gobaith ar gael unrhyw bryd ar alw, ar-lein, ar s4c.co.uk/clic. Gallwch gyfrannu at yr elusennau drwy ddilyn y ddolen ar safle Carolau Gobaith ar wefan S4C.