Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi cyhoeddi heddiw mai’r cyn-aelod o Gabinet Cymru, Andrew Davies, fydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Mae’n olynu Win Griffiths, cyn-aelod seneddol Penybont, a fydd yn gorffen fel Cadeirydd ar Ragfyr 31.

Mae’r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi dweud y bydd profiad Andrew Davies o fudd i’r Bwrdd Iechyd, ond nid yw’r apwyntiad wrth fodd y Ceidwadwyr.

“Mae wedi cyrraedd y pwnt ble mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ymdebygu i ryw felt conveyer ar gyfer hen wleidyddion Llafur,” meddai Andrew RT Davies.

“Nid yw’r apwyntiadau uchel-eu-tâl hyn yn ymddangos yn rhan o ryw strategaeth fawr, yn hytrach yn ddefod  fach i ddiolch i selogion y blaid am eu gwasanaeth,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Mae Andrew Davies wedi cael ei apwyntio am dair blynedd a bydd yn derbyn £69,840 y flwyddyn am 15 diwrnod o waith bob mis.

Ar hyn o bryd mae’n Athro Mygedol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gynghorydd strategol i Is-ganghellor y brifysgol.