Ann Clwyd
Mae Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann  Clwyd, wedi disgrifio sut yr oedd ei diweddar ŵr wedi cael ei drin gydag “oerni, dicter a difaterwch” gan nyrsys yn yr ysbyty.

Dywedodd Ann Clwyd ei bod wedi cyrraedd y ward yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac wedi darganfod ei gwr, Owen Roberts, yn gorwedd mewn gwely, a oedd yn rhy fach iddo, yn oer ac yn ofidus, a doedd dim nyrsys o gwmpas i’w helpu.

Oriau’n ddiweddarach, bu farw o niwmonia.

“Roedd fy ngŵr wedi marw fel iâr fatri,” meddai’r AS wrth raglen BBC Radio 4 The World at One.

“Ni ddylai unrhyw un orfod marw o dan yr amgylchiadau y bu farw fy ngŵr i,” meddai.

Dywedodd Ann  Clwyd ei bod yn tynnu sylw at y mater fel na fyddai eraill yn gorfod dioddef yn yr un ffordd.

“Mae achosion fel hyn yn llawer rhy gyffredin,” meddai.

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr nyrsio’r ysbyty, Ruth Walker, eu bod yn cydymdeimlo’n ddwys ac wedi cynnig cwrdd ag Ann Clwyd i drafod y mater fel bod ymchwiliad ffurfiol yn cael ei gynnal. Ychwanegodd eu bod yn ystyried materion o’r fath yn “ddifrifol iawn.”