Elfyn Llwyd
Mae stelcian bellach yn drosedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997 wedi ei diweddaru i gynnwys stelcian sy’n golygu y bydd na ddwy drosedd newydd sef un o stelcio, a’r llall o stelcio gyda bod ag ofn o drais. Y gosb fwyaf ar gyfer stelcio ydi chwe mis, a phum mlynedd ar gyfer stelcio gyda bod ag ofn o drais.

Mae stelcian yn drosedd yn yr Alban ers 2010.

Mi wnaeth Ymchwiliad Seneddol Annibynnol yn gynharach eleni ddarganfod fod 120,000 o bobol y flwyddyn yn ddioddef o stelcian – yn cael eu plagio gan unigolion eraill yn barhaus. Er hynny, dim ond 53,000 oedd wedi cael eu nodi gan yr heddlu fel troseddau. Dim ond un mewn  50 oedd wedi arwain at garcharu troseddwr.

Elfyn Llwyd, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd oedd cadeirydd yr Ymchwiliad.

“Mae’r ddeddf yn rhoi llais i ddioddefwyr stelcian,” meddai.