Castell Aberteifi
Erbyn 2014 bydd Castell Aberteifi, castell yr Arglwydd Rhys a safle’r Eisteddfod gyntaf erioed, yn gartref i’r unig arddangosfa barhaol yng Nghymru i ganolbwyntio ar yr Eisteddfod.

Ac mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, sydd wedi llwyddo i ddenu miliynau o bunnau i ddatblygu Castell Aberteifi, yn awyddus i glywed gan eisteddfodwyr ar draws y wlad er mwyn cynnwys eu hatgofion nhw yn yr arddangosfa.

“Oes gennych chi atgofion difyr, dwys, diddorol am Eisteddfodau ddoe a heddiw?” Rhyw hanesyn bach sydd yn felys i’r cof ond na fydd byth o ddiddordeb  i unrhyw Gyfansoddiadau Eisteddfodol neu bapur newydd,” meddai Rhian Medi ar ran yr Ymddiriedolaeth.

“Byddwn wrth fy modd i glywed am eich atgofion chithau. Sdim ots sawl blwyddyn yn ôl mae’r atgofion,” ychwanega.

Os oes gennych atgofion i’w; rhannu, cysylltwch â Rhian Medi ar rhianmedi.cadwganbpt@btconnect.com neu trwy ysgrifennu ati i Gastell Aberteifi, Stryd Werdd, Aberteifi, SA43 1JA.