Mae cynhyrchwyr rhaglen deledu am fywyd cyn-reolwr tîm pêl droed Cymru Gary Speed wedi dweud bod gwneud y rhaglen yn un o brofiadau mwyaf emosiynol eu gyrfa.

Mae Caryl Ebenezer a Dafydd Thomas, sy’n gweithio i gwmni cynhyrchu Rondo, wedi cael profiad dirdynnol wrth gyfweld ag aelodau o deulu a ffrindiau agos Gary Speed sy’n dal i’w chael hi’n anodd, flwyddyn yn ddiweddarach, i ddygymod â’i farwolaeth.

Mae’r ddau gynhyrchydd teledu wedi bod yn ffilmio’r cyfweliadau wrth iddyn nhw baratoi rhaglen ddogfen arbennig – Gary Speed: Arwr Cymru – a gaiff ei darlledu nos Iau 27 Rhagfyr ar S4C.

Ddydd Sul y 27ain o Dachwedd y llynedd daeth y newyddion trasig bod rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn ŵr, yn dad, yn fab, ac yn arwr i genedl, wedi marw.

“Mae cymaint o bobl yn teimlo’r golled yma i’r byw,” meddai Caryl, “mae’r bobl dy’n ni wedi siarad â nhw dal ddim yn gallu credu fod Gary wedi mynd.

“Dy’n ni hefyd wedi ymweld â’r clybiau y chwaraeodd Gary iddyn nhw yn ystod ei yrfa – a phawb yno mor uchel eu parch ohono ac yn ei gyfri’ yn un ohonyn nhw.

“Fel cynhyrchydd, i raddau mae’n rhaid dysgu cymryd cam yn ôl mewn sefyllfa emosiynol- ond yn yr achos yma, mae wedi bod yn amhosib.  Mae siarad â’r unigolion oedd yn adnabod Gary wedi bod yn un o brofiadau mwyaf  emosiynol fy ngyrfa.

“Dwi wedi bod mewn dagrau droeon yn ystod y broses ffilmio, wrth sylweddoli cymaint  ’roedd Gary Speed yn ei olygu i bawb.”

Yn ystod gyrfa hir a llewyrchus, roedd Gary wedi dod yn ffigwr enwog, ond prin yw’r enwau o fyd y bêl gron sydd wedi llwyddo i ennyn cymaint o barch ac edmygedd gan gymaint o bobl.  Roedd llawer o’r ffrindiau hynny, yn ogystal â’r teulu, yn croesawu’r cyfle i rannu eu teimladau am y dyn addfwyn a chyfeillgar hwn.

Ymysg rhai o’r wynebau cyfarwydd sy’n ymddangos ar y rhaglen mae Mark Hughes, cyn peldroediwr a rheolwr tîm Cymru; Raymond Verheijen ac Osian Roberts, aelodau o dîm rheoli Cymru dan arweinyddiaeth Gary; Gordon Strachan, un o’r chwaraewyr canol cae chwedlonol gyda Gary yn Leeds nôl ar ddechrau’r 90au; a Howard Wilkinson, rheolwr y tîm llwyddiannus hwnnw.

Mae Roger Speed hefyd yn siarad yn agored am golli ei fab ar y rhaglen arbennig hon.

“Rodd hi’n fraint cwrdd â rhieni Gary,” meddai Dafydd Thomas sy’n gynhyrchydd teledu profiadol. “Fe gawsom ni gymaint o groeso ganddynt. Ac fe ddywedodd Roger ei fod yn ddiolchgar iawn i ni am wneud iddo deimlo’n gyfforddus fel ei fod yn gallu siarad am fywyd Gary.”

Mae natur y sylwadau gan bobl yn eu cyfweliadau wedi llywio tôn y rhaglen.

“Er mai ar y cae pêl droed y gwnaeth ei enw, mae’n cael ei gofio fel gŵr arbennig oedd yr un peth gyda phawb bob amser. Yn ystod ei fywyd byr roedd amser gydag e i bawb – o’r menywod te i’r rheolwyr.

“Fe fydd y rhaglen yn edrych yn ôl wrth gwrs ar Gary Speed y peldroediwr, ond yn fwy na hynny, bydd yn edrych ar Gary Speed y dyn.

“Flwyddyn ers i Gary farw, er bod llawer o’r rheini oedd agosaf ato yn cael hi’n anodd ymdopi â’i farwolaeth, mae’r rhaglen hon yn dangos bod dylanwad Gary Speed yn dal yn fyw heddi.”