Neil McEvoy
Mae Cynghorydd Sir a fu’n ddirprwy arweinydd ar Gyngor Caerdydd wedi dweud bod cynghorwyr wedi gweiddi “speak English” pan siaradodd yn Gymraeg mewn cyfarfod o’r cyngor neithiwr.
Gofynnodd swyddogion i Neil McEvoy gyfieithu’r sylwadau i’r Saesneg a gwrthododd am ei fod yn teimlo ei bod hi’n “hollol annerbyniol nad oedd cyfleusterau cyfieithu ar gael”.
“Rydym yn byw mewn gwlad ble mae’r Gymraeg a’r Saesneg i fod yn gyfartal,” meddai Neil McEvoy, sy’n gynghorydd Plaid Cymru yn Y Tyllgoed.
Honnodd i rai cynghorwyr Llafur syllu ato gydag “atgasedd pur” am iddo siarad yn Gymraeg yn y cyfarfod.
“Y tro diwethaf i mi deimlo fel yna oedd pan gerddais i mewn i far y Front National yn Ffrainc un tro,” meddai’r cynghorydd sydd o dras cymysg.
Ymateb Cyngor Caerdydd
Dywedodd llefarydd o Gyngor Dinas Caerdydd:
“Roedd Cynghorydd wedi rhoi gwybod i swyddogion mewn da bryd ei fod am siarad Cymraeg yn y cyfarfod Ddydd Iau.
“Nid oedd aelodau mewn cynghorau blaenorol yn gofyn am y cyfleuster yma, ac ni fedron ni ddarparu’r gwasanaeth ar y pryd hwn.
“Fodd bynnag, fe wnawn ni godi’r mater gyda’r Chwipiaid a’r Pwyllgor Cyfansoddiadol a cheisio darparu’r gwasanaeth, os yn briodol, mewn cyfarfodydd i ddod.
“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd da, yn Gymraeg neu Saesneg, ac yn croesawu gohebiaeth yn y ddwy iaith.
“Rydym wedi cymryd rhan mewn ymarferiad ymgynghori ar fater y Gymraeg ac yn disgwyl am adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ar y safonau dan Fesur y Gymraeg 2011.
“Pan fyddwn ni wedi gweld yr adroddiad byddwn yn asesu sut orau y gallwn ni gwrdd â gofynion y safonau.”