Paul Silk yn cyflwyno'r adroddiad
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi croesawu adroddiad y Comisiwn Silk gan ddweud ei fod yn “cyd-fynd yn dda â’n safbwyntiau ni ynghylch trywydd diwygiadau ariannol.”

Ond mynnodd y bydd rhaid i bobol Cymru gael “y gair olaf” ar fater datganoli treth incwm.

“Rwyf wedi dadlau ers tro y byddai’n rhaid cynnal refferendwm cyn i’r pwerau i amrywio cyfraddau treth incwm gael eu datganoli, ac rwy’n falch o weld bod y Comisiwn yn rhannu’r safbwynt hwnnw,” meddai Carwyn Jones.

“Byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion i symud i gyfeiriad datganoli rhai pwerau treth incwm – ar yr amod mai pobl Cymru fyddai â’r gair olaf.”

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn falch fod y Comisiwn wedi cefnogi datganoli pwerau benthyca a’i fod yn croesawu’r cynigion y dylai Cymru gael rheolaeth dros rai trethi, megis y dreth stamp, “a allai gynnig dull newydd i ni o gefnogi twf economaidd.”

‘Sylfaen gref’

Ychwanegodd Carwyn Jones: “Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw – ynghyd â’r datganiad ar ddiwygio’r drefn ariannu a gyhoeddwyd ar y cyd â Llywodraeth y DU fis diwethaf – yn cynnig sylfaen gref ar gyfer cyflwyno diwygiadau tymor hir.

“Byddwn yn ystyried yr adroddiad yn ofalus yn awr, gan obeithio cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn symud yr agenda hon yn ei blaen yn gyflym.”

Kirsty Williams: ‘Cam arall tuag at DU ffederal’

Mae adroddiad Silk yn “gosod cynllun sydd â chyfle gwych i gael cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol,” meddai  arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.

“Mae’r syniad bod y Cynulliad Cenedlaethol yn medru creu deddfau a gwario arian ond methu rheoli faint o dreth y cesglir yn anomaledd,” meddai Kirsty Williams.

“Rydym wrth ein boddau bod yr adroddiad heddiw yn cefnogi’r farn honno.”

“Mae’n hanfodol fod Bil Cymru newydd yn cael ei gyflwyno yn y tymor seneddol yma er mwyn gweithredu argymhellion Silk.”

“Dyma’r cam diweddaraf yn ein hymgyrch hir am Deyrnas Unedig ffederal. Bydd yn cryfhau Cymru ac yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobol ar draws y wlad.”

Ceidwadwyr: ‘Croesawu argymhellion Silk’

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gyfrifol am godi cyfran o’i chyllideb er mwyn ei gwneud hi’n “atebol” i bobol Cymru.

Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Paul Davies, wedi croesawu argymhellion Silk gan ddweud y byddai rhoi rhai pwerau trethu ynghyd â’r gallu i fenthyg yn “rhoi mwy o arfau i Lywodraeth Cymru wneud Cymru yn lle mwy deniadol i wneud busnes.”

“Mae’n becyn cyflawn o ddiwygiadau er mwyn gwneud Llywodraeth Cymru yn atebol am ei phenderfyniadau,” meddai Paul Davies.

Plaid Cymru: angen gweithredu’r argymhellion

Mae Plaid Cymru wedi croesawu argymhellion adroddiad Comisiwn Silk ond yn rhybuddio nad yw’r adroddiad yn mynd mor bell ag yr hoffai’r blaid.

Mae Plaid Cymru yn galw am weithredu’r argymhellion cyn gynted ag y bo modd, gan ddweud fod yr adroddiad wedi gosod amserlen fanwl ar gyfer gweithredu, ond mae Carwyn Jones wedi dweud y byddai’n rhaid rhoi’r pŵer i godi trethi gerbron pobol Cymru mewn refferendwm.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, Ieuan Wyn Jones: “Cred Plaid Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru gael pwerau dros drethi, megis treth incwm a threthi busnes, gan gynnwys hefyd dreth gorfforaeth, fel y gallwn dyfu ein heconomi a chreu mwy o swyddi. Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim neu fawr ddim lle i symud y tu mewn i gyfyngiadau’r grant bloc.

“Rydym yn falch fod Comisiwn Silk wedi argymell trosglwyddo cyfrifoldeb dros rai pwerau treth incwm i Lywodraeth Cymru. Mae treth incwm eisoes yn cael ei drosglwyddo yn yr Alban.

“Gyda rhyw 1.4m yn talu treth incwm yng Nghymru byddai’n golygu y byddai gan bron bob teulu yng Nghymru ran mewn dweud sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r arian hwnnw.

“Mae datganoli trethi busnes yn beth i’w groesawu hefyd, gan mai gan Gymru ar hyn o bryd y mae’r system leiaf blaengar o drethi busnes yn y DG. Dylai hynny newid er lles y busnesau bach sy’n asgwrn cefn ein heconomi.

“Mae Plaid Cymru yn awyddus i weithio ochr yn ochr â phleidiau eraill a chymdeithas ddinesig yng Nghymru i roi mwy o lais i Lywodraeth Cymru a mwy o gyfrifoldeb.”