Mae nifer y di-waith yng Nghymru wedi gostwng 5,000 i 121,000 yn y chwarter hyd at fis Medi, yn ôl ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi bore ma.

Yn y DU, roedd nifer y di-waith wedi gostwng 49,000 i 2.51 miliwn, y ffigwr isaf ers yr haf y llynedd.

Ond mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal di-waith wedi cynyddu 10,100 i 1.58 miliwn, y nifer uchaf ers mis Gorffennaf.

Roedd nifer y bobl mewn gwaith wedi cynyddu 100,000 yn y chwarter olaf i ychydig llai na 30 miliwn, cynnydd o bron i hanner miliwn dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ffigurau eraill gan y Swyddfa Ystadegau yn dangos bod nifer y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith am fwy na blwyddyn wedi cynyddu 12,000 yn y chwarter hyd at fis Medi i 894,000, tra bod 443,000 wedi bod yn ddi-waith ers mwy na dwy flynedd.

Fe gynyddodd nifer y rhai mewn swyddi rhan amser o 49,000 i 8.1 miliwn, tra bod 51,000 yn ychwanegol  mewn swyddi llawn amser, i 21.4 miliwn.

Bu gostyngiad o 49,000 yn nifer y bobl ifainc rhwng 16 a 24 oed sy’n ddiwaith.