Mae ymgyrch recriwtio yn cael ei gynnal yn Ynys Môn er mwyn dod o hyd i ynadon heddwch newydd, yn arbennig rhai sy’n siarad Cymraeg.

Mae tua 30 o ynadon heddwch yn gwasanaethu’r unig lys ynadon sydd ar ôl ar Ynys Môn bellach, sef llys Caergybi, ac yn ôl Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi mae cyfran y siaradwyr Cymraeg ar fainc yr ynadon yn is na’r gyfran yn y gymuned leol.

Mae’r Gwasanaeth yn bwriadu penodi pum ynad newydd, a bydd gofyn i dri ohonyn nhw fod yn ddigon rhugl i gynnal achosion yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Dywedodd Manon Williams o Wasanaeth y Llysoedd nad ydyn nhw wedi cael trafferth penodi siaradwyr Cymraeg yn y gorffennol, ond mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gyhoeddi fod angen penodi nifer penodol o siaradwyr Cymraeg yn Ynys Môn.

Mae rôl ynad heddwch yn ddi-dâl ac mae gwahoddiad i oedolion “o gymeriad da” sy’n awyddus i wneud y gwaith yn Ynys Môn fynd i noson recriwtio yn Llangefni ar 5 Rhagfyr.