Y Tywysog a'i wraig - cael eu gwarchod
Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau fod un o swyddogion diogelwch Y Tywysog William yn Ynys Môn wedi tanio gwn mewn car wrth ei wylio.

Mae ymchwiliad wedi’i ddechrau i holi beth ddigwyddodd pan gafodd y gwn ei danio ddydd Mercher mewn car heddlu heb farciau swyddogol.

Roedd plismon arall yn y car ar y pryd ond, er fod difrod wedi ei achosi i lawr y cerbyd, chafodd yr un o’r ddau ddyn unrhyw niwed.

Wedi ei atal

Mae’r swyddog a daniodd y gwn wedi cael ei atal rhag defnyddio arfau yn ystod yr ymchwiliad.

Y gred yw fod y ddau swyddog yn eistedd yn y car wrth wylio cartref y Tywysog a’i wraig Kate yn Ynys Môn, lle mae e’n beilot hofrennydd.

Fe fydd pryder mawr ei bod yn bosib i wn gael ei danio’n anfwriadol lle gallai pobol eraill fod o gwmpas.