Ar ddiwrnod penblwydd S4C yn 30 oed, mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn am i’r sianel gael ei hannibyniaeth yn ôl gan y BBC.
Anfonodd y Gymdeithas lythyr at gadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, yr Arglwydd Chris Patten, yn gofyn iddo newid y berthynas rhwng y ddau sefydliad.
Maen nhw’n gofidio y gallai’r berthynas beryglu dyfodol y Gymraeg.
Yn y llythyr, maen nhw’n cyfeirio at hawl y BBC i leihau cyllideb S4C.
“Ni ddylai fod hawl gan y BBC i gwtogi ar gyllideb S4C o dan unrhyw amgylchiadau,” meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Wiliams.
‘Ysbryd haelioni’
Yn ei llythyr at Chris Patten, dywed: “Yn hytrach na sefyll lan dros Gymru, y Gymraeg a buddsoddi yn ein cymunedau mae’r BBC wedi bod yn brysur yn edrych ar ôl ei fuddiannau ei hun.
“Ond mae adeg pen-blwydd yn wahanol ac yn arbennig. Mae’n amser i’r BBC ddangos tamaid bach o ysbryd haelioni diwrnod pen-blwydd.
“Mae troi 30 fel arfer yn cael ei ddathlu gydag anrhegion, cyfarchion a dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol, felly gobeithiwn y byddwch chi’n fodlon cydnabod y pen-blwydd arbennig hwn gydag anrheg arbennig a fydd yn sicrhau dyfodol llewyrchus.”
Mae Golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y BBC.