Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn dyfarniad grant o tua £1.24 miliwn ymchwilio i haenau o ludw folcanig.
Y gobaith yw y bydd archwilio yr haenau o ludw sydd wedi’u dyddodi mewn iâ hynafol a gwaddodion morol yn datgelu rhai o gyfrinachau newid hinsawdd.
Y nod yw datrys pam fod tymheredd y byd wedi newid yn gyflym yn y gorffennol.
O fis Medi ymlaen, bydd Dr Siwan Davies, Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth yng Ngholeg gwyddoniaeth y Brifysgol, yn arwain tîm ymchwil newydd ar y prosiect pum mlynedd.
“Does dim byd yn herio ein dealltwriaeth o newid hinsawdd mwy na sydynrwydd neidiau enfawr mewn tymheredd a welwyd yn y gorffennol,” meddai Siwan Davies.
“Ychydig iawn yr ydym yn gwybod am y newidiadau hinsawdd cyflym hyn a welodd newidiadau tymheredd o hyd at 16°C.
“Gall y digwyddiadau hinsoddol hyn ymwneud ag ymddygiad cylchrediad cefnforol, neu gael eu tanio gan newidiadau yn yr atmosffer, o bosib yn y trofannau.
“Bydd y prosiect hwn yn profi’r posibiliadau cyferbyniol hyn drwy ddadansoddi’r haenau microsgopig o ludw folcanig sydd wedi’u dyddodi mewn iâ hynafol a gwaddodion morol.
“Fel y gwelwyd yng Ngwlad yr Iâ yn ddiweddar, mae modd i ludw folcanig gael ei gludo dros ranbarthau daearyddol mawr.”
Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy un o Grantiau Cychwynnol breintiedig y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd, sydd wedi’u dylunio i gefnogi ymchwilwyr addawol yn Ewrop sydd â’r potensial i fod yn arweinwyr ymchwil.
Bydd Dr Davies yn adeiladu tîm newydd a fydd yn cynnwys ymchwilwyr ôl-ddoethurol, myfyrwyr PhD a thechnegydd ymchwil.