Cafodd dyn 19 mlwydd oed wedi ei arestio ddoe ar amheuaeth o achosi difrod troseddol yn y Fferi Isaf, Sir y Fflint.

Toc ar ôl 4.30pm cafodd yr Heddlu wybod fod dyn wedi dringo ar do adeilad yn Hael yr Orsaf ac fe gaewyd y ffordd wrth i swyddogion Heddlu geisio ymresymu ag ef.

Fe gafodd brics a theils eu taflu o do’r adeilad ac fe achoswyd difrod i geir ar y stryd.

Daeth y dyn i lawr am 9.10pm ar ôl trafod â swyddogion. Cafodd ei arestio ac mae’n cael ei holi yng ngorsaf Heddlu’r Wyddgrug.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad ac mae’r Heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu hamynedd.