Neuadd Sir Caerfyrddin
Fe fyddai gwesty 100 ystafell ar gyrion Caerfyrddin yn creu 120 o swyddi, yn ôl llefarydd ar ran y cwmni sy’n gobeithio ei adeiladu.

Yr wythnos yma gwerthodd Llywodraeth y Cynulliad safle 7.5 acr ym Mharc Pensarn i gwmni Gryphon Leisure Ltd.

Mae cyfarwyddwyr y cwmni, Angela Saunders a’i brawd Barry Saunders, eisoes yn berchen ar Westy Parc y Stradey yn Llanelli.

Y gobaith yw y bydd y gwesty pedair seren newydd yn denu buddsoddiad o £12 miliwn ac yn hwb i’r economi lleol. Does dim caniatâd cynllunio wedi ei roi eto.

Mae’r cwmni yn gobeithio y bydd 60 ystafell yn agor erbyn haf 2013 a 40 arall yn agor y flwyddyn wedyn.

Mae’r cynlluniau yn cynnwys ystafell fyddai’n dal 450 o bobol ar gyfer cyfarfodydd busnes, a sba iechyd.

Fe fydd y cynlluniau gan y penseiri David Owen and Partners o Gaerdydd yn mynd o flaen adran gynllunio’r cyngor sir yn yr hydref.

Buddsoddiad lleol

Dywedodd Angela Saunders bod y cwmni yn gobeithio cyflogi cymaint o bobol leol a phosib.

“Rydyn ni’n credu y bydd ein cynlluniau o fudd economaidd sylweddol i’r ardal,” meddai.

“Ein polisi yw cyflogi pobol leol a chymaint o weithwyr llawn amser a phosib. Fe fydd 120 o swyddi yn cael eu creu yn y gwesty.”

Dywedodd y Gweinidog datblygu economaidd, Ieuan Wyn Jones, fod y cynllun busnes yn galonogol.

“Fe fydd arian o’r gwerthiant yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau band-eang a fydd o gymorth i fusnesau ledled Cymru,” meddai.

“Mae yn galonogol clywed bod busnes yn cynllunio ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol.”