Catherine Gowing a aeth ar goll ddydd Llun
Roedd chwaer y milfeddyg Catherine Gowning yn y llys yn yr Wyddgrug y bore yma wrth i ddyn ymddangos ar gyhuddiad o’i llofruddio.
Fe wnaeth Clive Sharp, 46 oed, sydd heb gyfeiriad sefydlog, gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni a chadarnhau ei fod yn deall y cyhuddiad iddo lofruddio Catherine Gowning yng ngogledd Cymru rhwng Hydref 11 a 17.
Cafodd Sharp ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.
Ar ôl y gwrandawiad byr, dywedodd y Ditectif Arolygydd Iestyn Davies ar ran teulu’r milfeddyg: “Ein prif amcan yw dod o hyd i Catherine.
“Mae’r gefnogaeth yr ydym wedi ei gael gan yr heddlu, y cyhoedd a phawb o ffrindiau a theulu Catherine wedi’n cadw ni i fynd ac fe fyddan nhw’n parhau i wneud hynny.
“Fe fyddwn ni’n dod â Catherine adref.”
Fe fethodd y milfeddyg 37 oed a dychwelyd i’w gwaith yn yr Wyddgrug ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu ddoe iddyn nhw ddod o hyd i’w char wedi llosgi gerllaw hen chwarel yn Alltami, tua dwy filltir o’i chartref yn New Brighton, Sir y Fflint.
Roedd Catherine Gowing, sy’n wreiddiol o Swydd Offaly yn Iwerddon, wedi gweithio ym milfeddygfa Evans yn yr Wyddgrug ers 18 mis.
Mae Heddlu’r Gogledd yn dal i apelio am wybodaeth ac yn gofyn i bobl gysylltu â nhw ar 101.