Bydd miloedd o undebwyr llafur o Gymru’n cymryd rhan mewn gorymdaith gan y TUC yn Llundain heddiw.
Bwrdiad yr orymdaith, ‘Dyfodol sy’n Gweithio’ yw tynnu sylw at argyfwng diweithdra pobl ifanc a galw ar Lywodraeth Prydain i roi’r gorau i’r toriadau yn y sector cyhoeddus.
“Fe fyddwn ni’n pwyso ar y llywodraeth i wrando ar bobl Prydain a gweld sut mae eu mesurau ariannol yn effeithio ar bobl gyffredin a’u cymunedau,” meddai Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
“Dyw hi ddim yn deg fod llywodraeth o filiwnyddion yn gallu torri cymaint ar wasanaethau sy’n cael eu defnyddio gan bobl gyffredin, ac yn gadael i gwmnïau mawr osgoi miliynau o bunnau mewn trethi.
“Mae arnon ni eisiau gweld dyfodol gwell gyda mwy o gyfleoedd i’n pobl ifanc – dewch i ymuno â ni heddiw dros Ddyfodol sy’n Gweithio.”
Fe fydd yr orymdaith yn cychwyn o lannau’r Tafwys rhwng pontydd Hungerford a Blackfriars tua 11 y bore yma, ac yn ddiweddarach fe fydd rali yn Hyde Park, lle bydd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, ymysg y siaradwyr.