Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dau ar ôl tân ym Mhrestatyn lle bu farw gwraig 20 oed a dau o blant bach neithwr.

Cafodd ymladdwyr tân eu galw i’r tân ym Maes y Groes, Prestatyn, am 10pm, ac wrth fynd i mewn i’r tŷ, fe gawson nhw hyd i bump o bobl.

Fe wnaeth parafeddygon gadarnhau bod y wraig 20 oed, bachgen 4 oed a geneth 2 oed eisoes wedi marw, ac aed â dyn 23 oed a babi 15 mis i ysbytai arbenigol am driniaeth.

Mae ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal gan yr heddlu ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.