Yr A470 drwy Rhaeadr Gwy
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Cymru wedi wfftio honiad grŵp Gwir Gymru, bod Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi gormod o bwyslais ar adeiladu ffyrdd rhwng y gogledd a’r de.

“Mewn realiti, does dim cysylltiad economaidd rhwng y de a’r gogledd”, meddai Nigel Bull ar ran y grŵp sy’n ymgyrchu dros bleidlais ‘Na’ yn y Refferendwm ar Fawrth 3, ac sydd yn honni bod Llywodraeth y Cynulliad yn esgeuluso ffordd Blaenau’r Cymoedd er lles prosiectau “yn ardal Rhaeadr Gwy”.

Roedd Nigel Bull yn siarad â Golwg wrth i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi gwariant o £10 miliwn er mwyn gwella cyflwr yr A487 yng Nglandyfi, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

“Y prif ganolfannau ar gyfer masnach yn y gogledd yw Manceinion, Lerpwl ac efallai Birmingham. Mae de Cymru tua 180 milltir i ffwrdd. Mae hynny’n andros o siwrnai, hyd yn oed pe bai yna draffordd i gael.”

“Does gan y ffyrdd yma (rhwng y de a’r gogledd) ddim pwysigrwydd economaidd o bwys, ar wahân i ffermwyr sydd am gael eu stoc i’r farchnad”, meddai Nigel Bull.

‘Gosod y record yn strêt’

Ond canfyddiad “anghywir” ac “annheg” yw hyn, yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones.

“Dydw i ddim yn siŵr iawn o ble mae’r feirniadaeth yn dod i ddweud y gwir. Os mai canfyddiad ydy o, mae’n ganfyddiad anghywir.

“Os edrychwch ar y gwariant mae’r llywodraeth wedi ei wneud dros y pedair blynedd diwethaf, mae’r mwyafrif llethol wedi mynd i gysylltiadau dwyrain – gorllewin.

“Mae’n wir i ddweud bod cynlluniau de-gogledd wedi dechrau, ond mae mwyafrif yr arian yn mynd fel arall.

“Rydyn ni wedi rhoi blaenoriaeth i ffordd y Cymoedd. Mae hynny’n glir yn ein blaenrhaglen, ac mae’r buddsoddiad yna yn mynd yn ei flaen. Felly dydy’r feirniadaeth yn fy marn i jyst ddim yn deg, ac rwyf am gymryd y cyfle i osod y record yn strêt.”