Rhodri Glyn Thomas
Mae un a fu’n cyfieithu’r Cofnod wedi dweud bod penderfyniad y Cynulliad i beidio â sicrhau ei fod ar gael yn llawn yn Gymraeg a Saesneg “yn warthus”, a’i fod yn siomedig gyda Phlaid Cymru.

Dywedodd Geraint Løvgreen wrth golwg360 fod modd cyfieithu’r Cofnod llawer rhatach na £600,000 – y ffigwr a gafodd ei nodi gan y Comisiynydd, Rhodri Glyn Thomas.

Yn ystod y drafodaeth yn y Senedd, dywedodd Rhodri Glyn Thomas am gynnig i ddarparu’r Cofnod yn llawn yn y ddwy iaith:

“Os ydych chi fel Aelodau yn gofyn i ni ddarparu‘r gwasanaethau hyn i chi, ein gwaith ni fel Comisiwn yw gwneud hynny. Ond, byddai hyn yn costio mwy na £600,000—llawer iawn mwy na hynny mewn gwirionedd—ac nid wyf yn credu y byddai‘n cyflawni unrhyw beth.

“Felly, mae‘r Comisiwn, unwaith yn rhagor, yn gofyn ichi wrthod y gwelliant hwn.”

Ond mae Geraint Løvgreen yn amau’r hyn a ddywedodd Rhodri Glyn Thomas.

Dywedodd: “Mae modd ei wneud yn rhatach, yn sicr. Dydy’r ffigwr o £600,000 jyst ddim yn wir. Mae yna ffyrdd o’i wneud o’n rhatach.

“Byddai’r gost o’i gyfieithu’n haneru, dim ond o gael cyfieithydd arall yn gweithio arno. Mater o flaenoriaethu yw hi.

“Rwy’n siomedig yn y Blaid. Mae angen iddyn nhw, o bawb, sefyll i fyny dros yr iaith a’i gwarchod hi.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Rhodri Glyn Thomas am ymateb.