Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael 24 awr ychwanegol i holi Mark Bridger, wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio April Jones.

Yn gynharach y bore yma dywedodd yr Uwcharolygydd Reg Bevan fod arestio Bridger ar amheuaeth o lofruddio yn “ddatblygiad arwyddocaol” a bod natur y chwilio wedi newid am eu bod nhw’n chwilio am gorff.

Roedd gan yr heddlu tan bump o’r gloch heddiw i’w holi, ond maen nhw wedi gofyn i lys  am estyniad arall o 24 awr.

Ni fydd angen cymorth y cyhoedd mwyach wrth chwilio am April meddai’r heddlu – gwaith swyddogion proffesiynol fydd y chwilio o hyn ymlaen. Diolchodd yr Uwcharolygydd y gwirfoddolwyr lleol a fu’n chwilio am April, gan ddweud eu bod nhw wedi gwneud “cyfraniad allweddol” a’u bod nhw wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r heddlu.

Ond maen nhw’n parhau i ofyn am wybodaeth am symudiadau Mark Bridger rhwng 6.30 nos Lun a 3.30 b’nawn Mawrth, ac am i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth gysylltu gyda nhw.

Hefyd maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un welodd Land Rover glas cofrestrif L503 MEP yn ystod y cyfnod dan sylw.

Ffoniwch yr heddlu ar 0300 2000 333