Mae bwriad Llywodraeth Cymru i greu ardaloedd cadwraeth ar arfordir Cymru yn parhau i godi gwrychyn wrth iddi ddod i’r amlwg nad yw’r Llywodraeth wedi anfon cynrychiolwyr i drafod effaith y cynlluniau gyda phobol leol.

Dros yr haf bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar greu tair ardal warchodedig ar arfordir Cymru a fydd yn “galluogi’r safleoedd hynny i weithredu mor naturiol â phosibl.”

Mae 10 safle dan ystyriaeth, a phedwar ohonyn nhw ar Benrhyn Llŷn, ac mae pysgotwyr lleol yno wedi datgan pryder y bydd eu bywoliaeth yn diflannu am na fydd hawl pysgota o fewn y parthau.

Yn ôl ymchwil ar gyfer rhaglen BBC Cymru, Taro Naw,  mae rhai o drigolion Abercastell yn Sir Benfro wedi eu gwylltio gan swyddogion y Llywodraeth a gyfaddefodd mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar nad oedden wedi ymweld â’r ardal cyn hynny.

Pan ofynnodd Taro Naw a oedd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru wedi ymweld â’r safleoedd er mwyn dysgu mwy am yr ardaloedd a sut gallai’r cymunedau gael eu heffeithio, dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth nad oedden nhw’n ymwybodol o unrhyw ymweliad ffurfiol gydag unrhyw un o’r deg ardal mewn golwg.

Ar y rhaglen dywed Dr Hilmar Hinz, o Adran Wyddoniaeth Forwrol Prifysgol Bangor, mai’r ffordd ymlaen yw caniatáu pysgota cynaliadwy effaith-isel – megis pysgota cawell cimwch a chrancod – tra’n rheoli pysgota mwy niweidiol.

Wrth ymateb i’r rhaglen, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi ymgynghori â’r cyhoedd ac wedi cynnal cyfarfodydd i egluro’r cynlluniau, ac y byddan nhw’n cymryd i ystyriaeth yr holl faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a godwyd.

Mae disgwyl i’r Gweinidog Amgylchedd John Griffiths wneud penderfyniad ar gamau nesaf y cynllun yn ystod yr hydref.