Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cynlluniau i godi archfarchnad Sainsbury’s yn y dref.

Pleidleisiodd 21 o blaid y cynlluniau, a phedwar yn erbyn.

Oherwydd gwrthwynebiad i’r cynlluniau gan drigolion y dref, mae’r Cyngor Sir wedi addasu’r cynlluniau gwreiddiol.

Un o’r argymhellion yw codi llwybr ychwanegol i gerddwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod y pwyllgor yn awyddus i leihau’r effaith ar y dref o godi’r archfarchnad newydd.

Er mwyn osgoi cystadlu’n ormodol â siopau sydd eisoes yno, bydd rhaid codi arwyddion ychwanegol ar gyfer canol y dref.

Fydd dim hawl gan Sainsbury’s agor caffi, cigydd  na delicatessen ar y safle.