Gorsaf Bwer Penfro
Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud y gallai gorsaf bŵer sy’n agor heddiw yn Sir Benfro niweidio bywyd y môr.

Mae Gorsaf Bŵer Penfro yn defnyddio dŵr o’r Cleddau fel oerydd ac yn ei roi yn ôl ar dymheredd uwch.

Mae’r ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd wedi dweud bod technoleg yr orsaf yn is na’r safon sy’n ddisgwyliedig ar gyfer gorsaf o’r fath.

Mae swyddfa Comisiwn Ewrop eisoes wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn cwyn am y safle.

Ond mae’r Swyddfa Gymreig a Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y safle a’r dechnoleg yn foddhaol.

‘Effeithlonrwydd ynni’

Bydd Dirprwy Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb yn bresennol yn agoriad swyddogol y safle heddiw ac mae e wedi dweud y bydd yr orsaf yn creu cenhedlaeth newydd o effeithlonrwydd ynni.

Hwn fydd ei ymweliad swyddogol cyntaf yn rhinwedd ei swydd newydd.

Mae disgwyl i’r safle gyfrannu £1 biliwn i economi ynni’r DU, ac fe fydd yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer 3.5 miliwn o gartrefi.

Cafodd 100 o swyddi eu creu wrth i’r orsaf agor.

Dywedodd Stephen Crabb: “Fel rhywun sy’n byw yn Sir Benfro ac fel Aelod Seneddol, rwy wedi bod yn ddigon ffodus i weld drosof fi fy hun sut y mae’r cydweithio cryf rhwng RWE npower, busnesau lleol a’r gymuned ehangach wedi ein harwain i’r lle rydym ni heddiw. Rwy wrth fy modd cael bod yma i weld yr holl waith caled yn dwyn ffrwyth.

“Ar ben y swyddi tymor hir y bydd y cyfleuster penigamp hwn yn eu creu, bydd hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol yn y broses o hyrwyddo datblygiad economaidd ehangach y gymuned leol – a Chymru gyfan – am genedlaethau i ddod.

“Does gen i ddim amheuaeth y bydd Gorsaf Bŵer Penfro yn chwarae rhan bwysig yn y broses o gynnal cyflenwad ynni’r DU ar gyfer y dyfodol, ac yn gwneud ei chyfraniad ei hun i greu ffyniant economaidd i Gymru.”