Mae disgwyl i ysgolion dderbyn canlyniadau newydd yr arholiad TGAU Saesneg Iaith heno, ar ôl i’r papurau gael eu hail-raddio.

Roedd 34,000 o ddisgyblion wedi sefyll yr arholiad, ac mae disgwyl i rai cannoedd dderbyn canlyniadau gwell yn dilyn yr ail-raddio.

Bydd y disgyblion yn cael clywed eu canlyniadau newydd fory, ar ôl i’r ysgolion eu derbyn gan Gyd Bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) am 5pm heno.

Mae’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews wedi beirniadu’r newid yn ffiniau’r graddau, sy’n golygu bod gradd C yng Nghymru’n gyfystyr â gradd D yn Lloegr.

Roedd yna ostyngiad o 3.9% yn nifer y graddau C eleni.

Yn Lloegr, mae’r Gweinidog Addysg, Michael Gove wedi cyhoeddi newid yn y system arholi ar gyfer y pynciau craidd, gyda Bagloriaeth yn disodli’r TGAU.

Bydd yr arholiadau Bagloriaeth gyntaf yn cael eu sefyll yn 2017, gyda phwyslais ar waith cwrs ac arholiad diwedd blwyddyn.

Mae disgwyl i Leighton Andrews wneud cyhoeddiad am ddyfodol y TGAU yng Nghymru ym mis Tachwedd.

Dywedodd Aelod Seneddol Mynwy, David Davies wrth raglen Post Cyntaf y BBC: “Mae angen gwahaniaethu rhwng y rhai sy’n academaidd a’r rhai sydd ddim, ond mae’n amhosib pan mae pawb yn cael graddau A a B.”