Ian Pearson
Dywed Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi dod o hyd i gorff dyn mewn coedwig ger Yr Aber Bach yn Sir Benfro.

Credir mai corff Ian Pearson, 41 oed o Salford sydd wedi bod ar goll yn yr ardal ydi o.

Mae’r gwasanaethau achub a’r heddlu wedi bod yn chwilio amdano ers dydd Mercher diwethaf ar ôl iddo fynd am dro o’r pentref efo’i ddau gi.

Daethpwyd o hyd i’r corff mewn coedwig brynhawn ddoe ac erbyn hyn mae teulu Mr Pearson wedi cael gwybod er nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol.

Dyw’r heddlu ddim yn amau trosedd a does yna ddim amgylchiadau amheus.

Mae’r crwner lleol hefyd wedi cael ei hysbsyu.