Pont Casnewydd
Mae trigolion ardaloedd Langstone ac Underwood yng Nghasnewydd yn sefydlu grwpiau i weithredu yn erbyn cynlluniau’r cyngor i greu gwersylloedd ar gyfer teithwyr a sipsiwn yn yr ardal.

Roedd tua 600 o bobl mewn cyfarfod ddoe drefnwyd fel rhan o’r broses ymgynghorol gan Gyngor y ddinas sydd yn ystyried 11 safle posibl ar gyfer y gwersylloedd.

Mae’r teithwyr a’r sipsiwn wedi dweud bod yn well ganddyn nhw safleoedd bychan teuluol yn hytrach na rhai mawr.

Dywedodd cynghorydd Ceidwadol ardal Langstone, Ray Mogford, bod yna gryn bryderon am y cynlluniau er bod pawb yn derbyn bod y cyngor dan orfodaeth i gynnig safleoedd i’r teithwyr.

Ychwanegodd bod sawl deiseb yn erbyn y cynlluniau ar y gweill a bod pobl yn pryderu am  sefydlu’r safleoedd ger henebion ac ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae ymgynghorwyr wedi dweud wrth y cyngor bod angen 29 o safleoedd parhaol yn y ddinas a 7 ar gyfer teithwyr sydd eisiau lle i aros dros dro.