Y Cynghorydd Kevin Madge
Mae arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ymosod yn ddi-flewyn ar dafod ar Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol lleol Plaid Cymru am wrthwynebu codi dwy archfarchnad yn y sir.

Yn ôl y Cynghorydd Llafur Kevin Madge mae penderfyniad Rhodri Glyn Thomas a Jonathan Edwards i alw’r cais – am ddau Sainsbury newydd – i mewn i’r Cynulliad yn “anhygoel ac yn anfaddeuol,” ac mae’n eu cyhuddo nhw o danseilio’r datblygiad.

Dywedodd Kevin Madge y byddai’r datblygiadau yn Llandeilo a Cross Hands yn “creu cannoedd o swyddi adeiladu” ac yn cynnwys buddsoddi mewn tai, meddygfa, cartref gofal, ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Maes yr Yrfa.

“Mae’r cyfan mewn perygl nawr,” meddai Kevin Madge.

“Byddai’r buddsoddiad yn Cross Hands wedi cefnogi ein bwriad i ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg ond mae hynna mewn perygl hefyd,” ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Cyfarwyddwr Eiddo Sainsbury, Neil Sachdev, ei fod “methu’n lân â deall pam fod angen galw’r datblygiadau i mewn”.

“Yn yr amseroedd hyn mae dewis buddsoddi mewn siopau newydd mewn lleoliadau ymylol fel Cross Hands a Llandeilo yn benderfyniad anodd.

“Gobeithio gaiff y galw-mewn ei brosesu cyn gynted â phosib er mwyn osgoi oedi diangen,” ychwanegodd Neil Sachdev.

Mae gwrthwynebwyr wedi dweud y byddai codi archfarchnad yn Llandeilo yn newid cymeriad y dref ac yn peryglu busnesau lleol.

Hyd yma nid yw golwg360 wedi cael gafael ar Rhodri Glyn Thomas a Jonathan Edwards ar ddiwrnod cynhadledd flynyddol Plaid Cymru.