Mae cwmni lorïau Mansel Davies yn gwario £1 miliwn o bunnoedd ar filiau tanwydd bob mis, ac yn dweud bod hynny’n ei gwneud yn anodd iawn i redeg y busnes.

Mae pris petrol wedi cynyddu o 106c y litr ym mis Mehefin i 118c y litr erbyn hyn.

Dywedodd Kaye Mansel Davies wrth golwg360 fod yn rhaid i’r cwmni wneud yr un faint o waith am bris llawer uwch nag o’r blaen.

“Mae effaith pris petrol wedi bod yn ofnadwy.

“Mae’r un faint o waith gyda ni i’w wneud ond mae’n costio llawer mwy.

“Ry’n ni’n teithio’r un pellter ag yr oedden ni o’r blaen – mae’n rhaid i ni – ond am bris llawer uwch.”