Mae’r Ymddiriedolaeth Moch Daear wedi dechrau ar eu hapêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i dreialu difa moch daear.

Ym mis Gorffennaf, cafodd y Llywodraeth yr hawl i ddechrau ar gynllun yng Ngwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw i ddifa moch daear.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dadlau na fydd difa moch daear yn cael unrhyw effaith wrth geisio atal y diciâu rhag lledu.

Maen nhw’n dweud y gallai 40,000 o anifeiliaid gael eu difa dros gyfnod o bedair blynedd heb unrhyw reswm.

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn dadlau nad yw’n briodol yn ôl y gyfraith bresennol i ganiatáu i’r moch daear gael eu difa.

Mae deddf a gafodd ei phasio ym 1973 yn amddiffyn moch daear.

Brechu yn hytrach na difa

Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd wedi dadlau o blaid defnyddio dulliau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cyflwyno rhaglen o frechu yn hytrach na difa moch daear i atal diciâu mewn gwartheg. Mae San Steffan yn dadlau fod y broses o frechu moch daear yn “ymateb annigonol i’r broblem.”

Nododd ffermwyr yn y gwrandawiad cyntaf ym mis Gorffennaf eu bod wedi colli gwerth £91 miliwn o wartheg oherwydd y diciau.

Does dim sicrwydd a fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud heddiw.