Mae academydd sy’n byw yng Nghymru wedi dweud bod angen penderfyniad trawsbleidiol ar ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae’r Athro Malcolm Prowle o Ysgol Fusnes Prifysgol Nottingham wedi dweud bod angen “diwygio radical” ar y Gwasanaeth Iechyd, a bod angen derbyn nad yw’r sefyllfa fel ag y mae hi’n foddhaol.

Ychwanegodd fod diwygio iechyd yn flaenoriaeth gan unrhyw lywodraeth sydd mewn grym yng Nghymru ond ei bod yn hawdd i’r wrthblaid ei roi o’r neilltu.

Mae’n feirniadol o’r ffaith fod llywodraethau’n rhy barod i wario arian cyhoeddus yn ddi-gyfeiriad, i gyflogi meddygon a nyrsys yn unig heb gyflogi pobl mewn meysydd iechyd eraill, i leihau nifer y rheolwyr a gweinyddwyr, ac i osgoi cau ysbytai beth bynnag fo’u cyflwr.

‘Cystadlu yn erbyn ei gilydd’

Dywed mewn blog ar Click on Wales: “Mae’r math yma o bolisïau yn cael eu cefnogi ar y cyfan gan gynrychiolwyr pobl broffesiynol iechyd ac undebau llafur. Ynghyd â chryn sylw gan y cyfryngau, mae hyn yn ei gwneud yn anodd dros ben i gyrraedd y lefel o newid sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd mewn gwirionedd.”

Cyfeiria at y ffaith fod y gwrthbleidiau wedi beirniadu adroddiad Longley ar ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae’n eu cyhuddo o gystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn cael mantais wleidyddol.

Bydd rhaid i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru arbed arian sylweddol er mwyn darparu gwasanaethau i bobl oedrannus, ond mae’r Athro Prowle yn dadlau bod rhaid iddo fyw ar ychydig iawn o gynnydd ariannol o flwyddyn i flwyddyn.

Dywedodd: “Rwy’n ofni bod y ddelwedd o’r tancer olew ystrydebol yn anelu am y creigiau’n ymddangos o flaen fy llygaid. Ers 60 o flynyddoedd mae’r GIG wedi cael symiau cynyddol o arian cyhoeddus a nawr (bron dros nos), mae disgwyl iddo fyw ar y nesaf peth i ddim o ran nawdd.”