Daniel Kawczynski
Mae Daniel Kawczynski, Aelod Seneddol yr Amwythig ac Atcham, wedi ei benodi yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat newydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones.
Mae’n disodli Glyn Davies, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, a oedd yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Cheryl Gillan.
Roedd Glyn Davies wedi ysgrifennu ar ei flog cyn yr ad-drefniant ei fod yn gobeithio y byddai Cheryl Gillan yn parhau yn ei swydd.
Mae Daniel Kawczynski wedi ymosod ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol gan ddweud bod trefi ar y ffin â Lloegr ar eu colled o’i herwydd.
Yn 2009 cwynodd bod etholaethau ar y ffin â Chymru yn colli swyddi oherwydd bod grantiau Llywodraeth Cymru yn denu busnesau dros y ffin.
Dadleuodd hefyd bod ysbyty yn yr Amwythig wedi colli arian am eu bod nhw’n gorfod trin cleifion o Gymru. Dywedodd bod y cleifion oedd yn dod o Bowys yn cael meddyginiaeth nad oedd gan cleifion o Loegr yr hawl i’w derbyn.
“Dw i wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gofyn i mi fod yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i David Jones,” meddai Daniel Kawczynski mewn datganiad heddiw.
“Tra bydd fy nyletswyddau yn canolbwyntio’n bennaf ar y swyddfa Gymreig a chefnogi David Jones AS a Stephen Crabb AS, mae yna amrywiaeth eang o faterion traws-ffiniol sy’n cael effaith uniongyrchol ar yr Amwythig.
“Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy safle newydd er mwyn amlygu pryderon fy etholwyr ym meysydd iechyd a thrafnidiaeth, yn ogystal a gwneud popeth yn fy ngallu i hybu twf economaidd.”