Llys y Goron Caernarfon
Mae dyn 24 oed wedi cael ei garcharu am 4 blynedd am achosi marwolaeth pedwar o bobl drwy yrru’n ddiofal.

Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd Gordon Dyche, 24, o Lanbrynmair, Powys yn ddieuog o achosi marwolaeth y pedwar drwy yrru’n beryglus.

Roedd Gordon Dyche wedi gwadu’r cyhuddiadau o achosi marwolaeth pedwar aelod o’r un teulu ym mis Ebrill 2011.

Clywodd y llys bod car Dyche wedi taro car Peugeot Denise Griffith, 56, o Bontypridd gan achosi i’r car blymio i Lyn Clywedog.

Bu farw gŵr Denise Griffith, Emyr Griffith, 66, ei mam Phyllis Hooper, 84, a’i dau fab maeth Peter Briscome, 14, a Liam Govier, 14 yn y ddamwain.

Clywodd y rheithgor ddoe bod Gordon Dyche wedi dweud wrth yr heddlu mai fo oedd ar fai am y ddamwain am ei fod yn rhuthro i fynd i’r gwaith, ond  fe ddywedodd yn ddiweddarach ei fod mewn sioc pan wnaeth y sylwadau.

Roedd  Gordon Dyche wedi mynnu nad oedd ar fai gan ddweud ei fod yn “ddamwain drasig.”

Fe ddatgelwyd bod  Dyche wedi ei gyhuddo o droseddau gyrru cyn y ddamwain, a bod gwaharddiad gyrru yn ei erbyn newydd ddod i ben pan ddigwyddodd y ddamwain. Roedd wedi cael ei wahardd rhag gyrru tra ar waharddiad a heb yswiriant ym mis Ionawr 2011.