Carchar Caerdydd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud fod Jamie Bevan yn parhau i frwydro dros wasanaeth Cymraeg y tu fewn i furiau carchar Caerdydd

Mae Jamie Bevan o Ferthyr Tudful ar bedwerydd diwrnod ei ddedfryd 35 diwrnod yng ngharchar Caerdydd am wrthod talu dirwy ar ôl protest iaith.

Yn ôl y Gymdeithas dyw e ddim wedi gallu derbyn gwasanaethau arferol carcharor am nad yw’n fodlon llofnodi ffurflenni uniaith Saesneg.

Maen nhw wedi galw ar bobol i wrthod gohebiaeth uniaith Saesneg gan gyrff cyhoeddus er mwyn “cefnogi safiad Jamie”.

‘Angen Cymreigio’r carchardai’

Mae’r Gymdeithas hefyd yn galw ar i garchardai orfod cynnig gwasanaethau trwy’r Gymraeg i garcharorio, gan ddweyd bod Jamie Bevan  yn colli hawliau sylfaenol oherwydd ei safiad.

“Dim ond unwaith y mae e wedi gallu ffonio ei deulu, dyw e ddim wedi gallu defnyddio’r llyfrgell na chyfrifiadur, ac nid yw’n cael nodi ei anghenion bwyd,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.  “Mae’n destun pryder i’w deulu nad ydyn nhw wedi clywed ganddo.”

 “Mae carchardai Cymru yn gwasanaethu Cymry Cymraeg felly dylai gwasanaethau Cymraeg fod ar gael i unrhyw un sydd yn dymuno gwneud defnydd ohonynt,” meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas.

“Ddylai neb orfod gofyn am y pethau hyn – ac yn sicr ddylai neb fod yn colli pbethau sylfaenol fel dewis bwyd a defnydd o gyfleusterau. Dyw’r carchar na’i swyddogion yn dangos unrhyw barch tuag at Jamie, carcharorion Cymraeg eraill, na’r Gymraeg.”