Mae Prifysgol Aberystwyth bellach yn gartref i robot baban, sy’n un o bedwar yn unig sy’n bodoli yng Ngwledydd Prydain.

Mae’r robot iCub wedi ei gynllunio a’i adeiladu yn yr Eidal ac mae’r un maint ac yn gwneud yr un symudiadau â phlentyn bach.

Bydd Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol yn defnyddio’r robot er mwyn cynnal ymchwil i sut y mae sgiliau babanod yn datblygu dros amser.

Sgiliau

“Mae cysylltiad clos rhwng datblygiad mewn babandod â chorff y plentyn,” meddai Dr James Law, aelod o Grŵp Roboteg Ddatblygiadol y Brifysgol.

“Gyda’r robot hwn gallwn ymchwilio sut mae babanod yn adeiladu eu sgiliau’n gynyddol, gan ddefnyddio eu cyrff i drafod a dysgu am eu hamgylchedd.”

Bydd ymchwilwyr yn Aberystwyth yn ei ddefnyddio er mwyn profi ac arddangos eu damcaniaethau.

Mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan y Gymuned Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu 5.9m Ewro tuag ato, gyda’r tîm yn Aberystwyth yn derbyn £760,000.