Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth yw’r brifysgol fwya’ poblogaidd yng Nghymru, yn ôl y myfyrwyr eu hunain.

Unwaith eto, y Brifysgol Ger y Lli sydd wedi dod i’r brig o blith prifysgolion Cymru yn nhabl bodlonrwydd myfyrwyr y Times Education Supplement.

Ond doedd pob un o’r prifysgolion newydd ddim wedi cael eu cynnwys a Phrifysgol Bangor sydd wedi ennill mwya’ o dir tua brig y tablau.

Mae’r arolwg blynyddol yn holi tua 13,000 o fyfyrwyr mewn gwahanol brifysgolion am eu barn ar fwy nag 20 o wahanol gwestiynau – er mwyn gweld pa mor hapus ydyn nhw gyda’u ffordd o fyw a’r adnoddau yn ogystal â’r addysg ei hun.

Mae Aberystwyth yn nawfed o blith mwy na chant o brifysgolion gwledydd Prydain – cwymp o’r chweched safle a gafodd y llynedd.

Ond fe gododd Bangor o’r 22fed lle i fod yn 14eg, saith lle o flaen Caerdydd a naw o flaen Abertawe.

Yr unig brifysgolion Cymreig eraill i gael eu dyfarnu oedd Casnewydd (59), Morgannwg 84 ac Athrofa Caerdydd – UWIC (85).