Rhodri Talfan Davies
Mewn araith yn yr Eisteddfod y prynhawn yma, bydd Cyfarwyddwr BBC Cymru yn galw am gyfnod newydd o arloesi a chyd-weithio i sicrhau y bydd lle i’r Gymraeg yn y dyfodol digidol.
Bydd Rhodri Talfan Davies yn amlinellu’r hyn mae’n ei ddisgrifio fel yr “her enfawr” sy’n wynebu’r iaith wrth iddi geisio dod o hyd i’w lle ar ddyfeisiau digidol newydd fel ffonau clyfar (smartphones), teclynnau tabled (tablets) a theledu sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd.
Yn ei araith, mae disgwyl iddo hefyd ddatgelu fod ymchwil newydd y BBC yn dangos pa mor gyflym y mae’r “chwyldro digidol” yn digwydd yng Nghymru.
Mae’r ymchwil yn dangos fod gan dros hanner oedolion Cymru gyfrif Facebook a bod 45% yn berchen ar ffonau clyfar sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd. Dim ond 2%, fodd bynnag, sy’n dweud eu bod yn trydar yn rheolaidd.
Bydd yn dweud, “Mae’n rhaid i ni gydnabod bod mwyafrif o siaradwyr Cymraeg ifanc yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Saesneg yn bennaf – ac ychydig ohonynt fydd yn troi at wasanaethau rhyngweithiol yn y Gymraeg allan o ryw ymdeimlad o ddyletswydd.
“Dim ond os bydd rhywbeth o sylwedd yno ac os byddwn yn cynnig rhywbeth arbennig na allant ei gael unrhyw le arall y byddant yn troi at ein cynnwys. A dyna’r her i bob un ohonom.”
‘Mwy o hynodrwydd’
Bydd Rhodri Talfan Davies yn dweud wrth y gynulleidfa heddiw fod BBC Cymru ar ganol adolygu ei gwasanaethau Cymraeg gyda’r bwriad o gyhoeddi cynlluniau yn ddiweddarach eleni. Ond fe ddywed fod y nod yn amlwg yn barod.
“Mae oddeutu 20,000 o ddefnyddwyr yn dod at ein gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ni bob wythnos. Erbyn 2015, rydym am gyrraedd 50,000 gan gynnig gwasanaethau mae ein defnyddwyr yn eu gweld fel rhai hollol greiddiol a hanfodol,” meddai.
Dywed y bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy sicrhau mwy o hynodrwydd i’r gwasanaethau a rhoi canolbwynt llawer amlycach iddynt – a drwy agor y BBC i arloeswyr digidol.
“Does gennym ni ddim yr atebion i gyd – fu hynny erioed yn wir – ac rydym yn ymwybodol fod llawer o bobl y tu hwnt i’r BBC gyda syniadau cynhyrfus â’r potensial i weddnewid ein gwasanaethau. Mae’n rhaid inni agor ein drysau i’r bobl yma – ac i’w syniadau nhw,” meddai.
Caiff yr araith ei thraddodi yn Y Stiwdio ar faes yr Eisteddfod am 3yh a bydd croeso i aelodau’r cyhoedd.
Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn yr araith, a gaiff ei gadeirio gan Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC.