Margate, New Jersey
Mae’r tîm cyfreithiol dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Cymro a ymddangosodd ar raglen Gladiators wedi gorffen cyflwyno’u hachos.

Roedd Lavern Ritch o Benarth ar wyliau pythefnos ger dinas Philadelphia yn Awst 2007 pan gafodd ei drywanu ym Margate, New Jersey.

Roedd wedi ceisio ymyrryd pan welodd Robert Davies, troseddwr rhyw, yn ymladd â dyn arall.

Dywedodd Robert Davies wrth y llys ei fod yn credu bod Lavern Ritch yn un o griw oedd yn benderfynol o’i anafu neu ei ladd.

Mae’r dyn oedd yn ymladd â Robert Davies wedi cyfaddef iddo ei daro.