Rheilffordd Eryri
Fe fydd modd i’r cyhoedd fwynhau taith ar y trên yr holl ffordd o Gaernarfon i Borthmadog am y tro cyntaf ers yr ail Ryfel Byd yr wythnos nesaf.

Bydd y rheilffordd gyfan ar agor i’r cyhoedd am y tro cyntaf  yn ystod gwyliau’r hanner tymor.

Ni fydd Rheilffordd Eryri yn agor yn swyddogol nes 22 Ebrill ond fe fydd cyfle i’r cyhoedd fwynhau’r daith ddwywaith y diwrnod yr wythnos nesaf.

Mae trenau eisoes wedi gwneud y daith 26 milltir rhwng Caernarfon a Porthmadog, ar ôl i’r gwaith o adeiladu’r rheilffordd gael ei gwblhau ym mis Hydref y llynedd.

“Fe fydd yn gyfle i fwynhau’r gwaith caled sydd wedi ei wneud er mwyn ailagor y rheilffordd, a hefyd mwynhau golygfeydd prydferth Eryri,” meddai llefarydd ar ran y rheilffordd.

O ddiwedd mis Ebrill ymlaen fe fydd hi’n bosib teithio 40 milltir, o Gaernarfon i Borthmadog ar hyd Rheilffordd Eryri, ac yna ymlaen i Flaenau Ffestiniog ar hyd Rheilffordd Ffestiniog.

Mae’n bosib archebu tocynnau ar 01766 516000.